Our Terms & Conditions | Our Privacy Policy
Pam ddylai’r Cymry gefnogi Athletic Club Bilbao?
Gan mai Athletic Club Bilbao yw tîm mwyaf Gwlad y Basg a gyda’r polisi o ond dewis chwaraewyr o’r ardal, ydyn nhw mwy neu lai felly’n dîm cenedlaethol i’r genedl?
“Fyswn i ddim yn dweud hynny,” meddai Christopher.
“Nhw yw’r tîm mwyaf llwyddiannus, mwyaf poblogaidd ac sydd gyda’r hanes. Ond mae gennych chi glybiau fel Real Sociedad, Osasuna ac Alaves sydd gyda’r hunaniaeth Basgaidd cryf ‘ma hefyd, a dydyn nhw ddim yn hoffi’r ffaith bod Athletic yn cael ei adnabod yn rhyngwladol fel ‘y tîm Basgaidd’.
“Mae ‘na gefnogwyr Athletic sy’n casáu Real Sociedad, a chefnogwyr Sociedad sy’n casáu Athletic. Ond fel arfer mae’r berthynas fel un rhwng brodyr a chwiorydd – os ewch chi i’r gemau darbi maen nhw’n eistedd gyda’i gilydd, a bydde hynny byth yn digwydd mewn gêm rhwng Lerpwl a Manchester United.
“Ond mae ‘na elyn sy’n uno cefnogwyr timau Gwlad y Basg, sef hen dîm Franco – Real Madrid, ac i raddau llai, Barcelona ac Atlético Madrid.”
Images are for reference only.Images and contents gathered automatic from google or 3rd party sources.All rights on the images and contents are with their legal original owners.
Comments are closed.